Canlyniadau Chwilio - McNamara, Robert

Robert McNamara

Gweithredwr busnes o'r Unol Daleithiau oedd Robert Strange McNamara (9 Mehefin 19166 Gorffennaf 2009) a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau yng ngweinyddiaethau'r arlywyddion John F. Kennedy a Lyndon B. Johnson o 1961 hyd 1968. Roedd ganddo rhan flaenllaw wrth ddwysháu ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam. Wedi iddo adael y llywodraeth ffederal, roedd yn Llywydd Banc y Byd o 1968 hyd 1981. Roedd McNamara hefyd yn gyfrifol am sefydlu dadansoddi systemau ym maes polisi cyhoeddus, a ddatblygodd yn ddisgyblaeth dadansoddi polisi.

Ym 1995 cyhoeddodd ei hunangofiant, ''In Retrospect: The Tragedy and Lessons of Vietnam''. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1